Senedd Cymru: Grŵp Trawsbleidiol – Effaith y Cyfyngiadau ar Gynhyrchion sy’n Uchel Mewn Braster, Siwgr a Halen ar Siopau Bach
Dydd Mawrth 13 Rhagfyr 2020, 12:30 – 13:30: Microsoft Teams (Ar-lein)
COFNODION
YN BRESENNOL:
Enw cyntaf |
Cyfenw |
Sefydliad |
Cofnodion |
Edward |
Woodall |
Cymdeithas Siopau Cyfleustra |
EW |
Daniel |
Askew |
Cymdeithas Siopau Cyfleustra |
DA |
David |
Pickering |
Safonau Masnach |
DP |
Neil |
Millet |
Jos Richardson & Co |
NM |
Robin |
Lewis |
Aelod o Staff Cymorth Vikki Howells |
RL |
Vince |
Malone |
Tenby Stores / Ffederasiwn Cenedlaethol Manwerthwyr Papurau Newydd (NFRN Cymru) |
VM |
Rosina |
Robson |
Ffederasiwn Cenedlaethol Gwallt a Harddwch |
RR |
Ruth |
Buckley-Salmon |
Ffederasiwn Cenedlaethol yr Is-bostfeistri |
RBS |
Ioan |
Bellin |
Aelod o Staff Cymorth Rhys ab Owen AS |
IB |
Jim |
Winship |
The British Sandwich & Food to Go Association |
JW |
Enw cyntaf |
Cyfenw |
Sefydliad |
Peredur |
Owen Griffiths |
AS dros Ddwyrain De Cymru |
Vikki |
Howells |
AS dros Gwm Cynon |
Russell |
George |
AS dros Sir Drefaldwyn |
Llyr |
Gruffydd |
AS dros Ogledd Cymru |
YMDDIHEURIADAU:
1. Cyflwyniad
Croesawodd EW y rhai a oedd yn bresennol, gan hysbysu’r aelodau ynghylch y newidiadau a wnaed i agenda a fformat y digwyddiad yn sgil y ffaith nad oedd VH yn gallu bod yn bresennol oherwydd salwch.
Gofynnodd EW i RL am fanylion yr ymddiheuriadau a oedd wedi dod i law, ac aeth RL ati i restru'r ymddiheuriadau uchod.
2. Effaith y Cyfyngiadau ar Gynhyrchion sy’n Uchel Mewn Braster, Siwgr a Halen (HFSS) ar Siopau Bach
Drwy gyfrwng cyflwyniad, rhannodd EW wybodaeth â’r aelodau ynghylch y cyfyngiadau ar gynhyrchion HFSS sy’n destun ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, gan amlinellu’r gwahaniaethau allweddol o gymharu â'r rheoliadau HFSS sydd mewn grym yn Lloegr.
Siaradodd EW am sut y gallai cynigion Llywodraeth Cymru effeithio ar siopau bach yn sgil materion yn ymwneud â dehongli'r rheoliadau, a'r costau y bydd gofyn i fusnesau eu hysgwyddo er mwyn ailgynllunio ac ail-gyflunio eu siopau. Daeth EW â’r cyflwyniad i ben drwy amlinellu argymhellion ac ystyriaethau allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru.
3. Panel Manwerthwyr
Dechreuodd EW y sesiwn gyda’r panel manwerthwyr drwy gyflwyno NM a DP i’r aelodau.
Gofynnodd EW i NM am yr heriau allweddol y mae’n eu hwynebu wrth baratoi ar gyfer cyfyngiadau ar leoliadau cynhyrchion HFSS. Tynnodd NM sylw at y diffyg eglurder ynghylch dehongli'r cyfyngiadau ar leoliadau cynhyrchion fel mater allweddol, ynghyd â’r amser sylweddol sy’n cael ei dreulio wrth baratoi ar gyfer y cyfyngiadau hynny.
Trodd EW at DP, gan ofyn iddo sôn am brofiadau Safonau Masnach o safbwynt gorfodi’r rheoliadau yn Lloegr. Amlinellodd DP rai o'r heriau allweddol y mae Safonau Masnach wedi'u hwynebu wrth orfodi'r rheoliadau, gan gynnwys diffyg cyfathrebu clir ynghylch y polisi gan y Llywodraeth mewn perthynas â’r busnesau y mae’r rheoliadau yn effeithio arnynt, a diffyg eglurder ynghylch y diffiniadau o leoliadau ac ymgyrchoedd hyrwyddo sy’n seiliedig ar faint.
Trodd VM at NM, gan ofyn iddo sôn am ei ganfyddiadau ynghylch y broses o baratoi ar gyfer y rheoliadau HFSS. Soniodd NM am faterion sy’n ymwneud â negeseuon anghyson ynghylch gweithredu’r polisi.
Gofynnodd EW i DP ac NM am eu geiriau olaf o gyngor i Lywodraeth Cymru. Cytunodd y ddau ohonynt fod angen cyfathrebu am y polisi mewn ffordd glir, a bod angen aliniad cyson â’r rheoliadau yn Lloegr.
4. Diwedd
Rhoddodd EW grynodeb o’r cyfarfod a diolchodd i bawb am fod yn bresennol.